Remploy Cymru

Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)
Mae ein holl raglenni’n parhau i weithredu. Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, rydym wedi ailagor nifer o’n canghennau a’n swyddfeydd ar gyfer cyflenwi wyneb yn wyneb. Mae pob un o’n swyddfeydd sydd wedi ailagor yn cydymffurfio’n llawn â diogelwch COVID ac maent wedi ei archwilio gan weithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch. Dylech ddim ond mynd i gangen neu swyddfa Remploy os oes gennych gyfarfod a gadarnhawyd â’ch ymgynghorydd neu’ch gweithiwr allweddol. Byddant yn rhannu gwybodaeth â chi cyn eich cyfarfod wyneb yn wyneb, gan gynnwys mesurau diogelwch a gofynion gorchuddio wynebau.
Mae’r rhan fwyaf o’n cymorth yn parhau i gael ei gyflenwi dros y ffôn, fideo, ac e-bost. Mae cyflenwi wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn gyfyngedig ar hyn o bryd i ganiatáu am gadw pellter cymdeithasol ac i gadw’n cydweithwyr a defnyddwyr ein gwasanaethau’n ddiogel. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â’ch ymgynghorydd gwaith Remploy, eich gweithiwr allweddol, neu’ch pwynt cyswllt arferol. Fel arall, ffoniwch y gangen yn ôl yr arfer.
Rydym yma i helpu
Rydym yn gallu eich helpu i chwilio am eich swydd nesaf, cael eich swydd ddelfrydol nesaf ac, os nad ydych yn barod i symud i mewn i waith ar unwaith, gallwn eich helpu i ddysgu sgiliau newydd a goresgyn heriau y gallech fod yn eu profi.
Mae rhai enghreifftiau o’r help y gall ein tîm ei ddarparu yn cynnwys:

- Cymorth arbenigol i’ch helpu i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth
- Meithrin eich hyder
- Cymorth gyda’ch CV a chwilio am waithHyfforddi a chymwysterau
- Eich helpu i ddod o hyd i’r rôl iawn trwy ein partneriaid sy’n cyflogi
- A chymaint mwy.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’n rhaglenni neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ar sut i gael gafael ar ein cefnogaeth, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.
Cysylltwch heddiw i wneud cais
Os hoffech gael ein cefnogaeth, siaradwch â’ch Anogwr Gwaith Canolfan Byd Gwaith am y rhaglenni hyn neu cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth:
Am Gymorth a Dargedir at Gael Swydd y Rhaglen Waith ac Iechyd
Ffoniwch 0300 456 8161, e-bostiwch Wales@JETS.www.remploy.co.uk
Am Raglen Gwaith ac Iechyd Cymru
Ffoniwch 0300 456 8025, e-bostiwch waleswhp@mail.www.remploy.co.uk
Am Gymorth Cyflogaeth Dwys wedi’i Bersonoli
Ffoniwch 0300 456 8091, e-bostiwch ipes@mail.www.remploy.co.uk
Ein rhaglenni
Gallwch wneud cais trwy eich Canolfan Byd Gwaith leol ar gyfer:
Cymorth a Dargerdir at Gael Swydd y Rhaglen Waith ac Iechyd os ydych:
- Dros 16 oed
- Yn byw ac yn gallu gweithio yng Nghymru
- Am ddod o hyd i waith ac angen cymorth cyflogaeth
- Yn ddi-waith ac wedi bod yn cael budd-daliadau am fwy na 13 wythnos.
Rhaglen Waith ac Iechyd Cymru neu Gymorth Cefnogaeth Dwys wedi’i Bersonoli os ydych:
- Dros 18 oed ar gyfer y Rhaglen Waith ac Iechyd Cymru neu dros 16 oed ar gyfer y Cymorth Cefnogaeth Dwys wedi’i Bersonoli
- Yn ddiwaith, yn byw yng Nghymru a gyda anabledd neu gyflwr iechyd.
Mae’r holl raglenni’n edrych ar bob agwedd o’ch bywyd, nid y canlyniadau cyflogaeth yn unig, beth bynnag fo’ch amgylchiadau. Byddant yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, rheoli eich iechyd a’ch lles, adeiladu eich cryfder emosiynol a’ch gwytnwch yn ogystal â’ch gwneud yn barod am swydd.
Cewch hyd at:
- Chwe mis o gymorth gyda’r Rhaglen Waith ac Iechyd: Cymorth a Dargedir at Gael Swydd
- 21 mis gyda’r Rhaglen Waith ac Iechyd Cymru a Chymorth Cefnogaeth Dwys wedi’i Bersonoli.
Yn dibynnu ar eich anghenion unigol unwaith rydych yn y gwaith, byddwn yn parhau i fod yma i chi, gan sicrhau eich bod wedi setlo a bod y rôl yn addas iawn i chi.
Gwyliwch sut y gwnaeth Chris oresgyn ei rwystrau i lanio swydd ddelfrydol fel mecanig

Byddwch yn cael eich paru â’ch Gweithiwr Allweddol ymroddedig eich hun trwy gydol eich taith i’r gwaith. Byddant yn eich cefnogi trwy alwadau ffôn, e-byst, sgwrs fideo a negeseuon testun, i’ch helpu i ddod o hyd i’r swydd iawn.
Bydd eich Gweithiwr Allweddol yn dod i’ch adnabod, yn nodi’ch sgiliau a’ch cryfderau, ac os oes unrhyw heriau penodol yn ei gwneud hi’n fwy anodd i chi symud i mewn i waith. Gyda’n gilydd, byddwn yn adeiladu cynllun gweithredu cam wrth gam i’ch helpu chi i gyrraedd y lle rydych chi am fod.
Bydd gennych fynediad i:
- Cymorth arbenigol, wedi’i theilwra i’ch anghenion
- Help gyda chwilio am waith, CVs, ffurflenni cais a pharatoi am gyfweliadau
- Hyfforddiant i gael sgiliau newydd i chi ar gyfer nodau swydd yn y dyfodol
- Cyngor ar iechyd, lles, tai, arian, dyled a TG gan ein partneriaid cymunedol ledled Cymru
- Cyfleoedd gwirfoddoli i ennill profiad hanfodol
- Cysylltiadau gyda chyflogwyr i’ch helpu i sicrhau lleoliadau neu swyddi sy’n addas i’ch amgylchiadau a chymaint mwy.
Am hyd at 21 mis, yn dibynnu ar eich anghenion unigol ac unwaith yn y gwaith, byddwn yn dal i fod yno i chi, gan sicrhau eich bod wedi setlo a bod y rôl yn addas iawn i chi.
