1. Country
  2. Language
  3. Enter Site

Dewis Gwaith

Gall Remploy eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth a datblygu'ch gyrfa trwy'r rhaglen Dewis Gwaith.

Mae'r rhaglen Dewis Gwaith yn cynnig cymorth cyflogaeth i bobl anabl gyda rhwystrau cymhleth i weithio, er mwyn iddynt allu dod o hyd i ac aros mewn gwaith.

Rydym yn gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gynnig cefnogaeth cyflogaeth i chi.

Bydd Remploy yn gweithio gyda chi i ganfod swydd sy'n addas i chi. Gallwn hefyd eich helpu i gychwyn eich busnes eich hun a symud i hunangyflogaeth. Wedi i chi ddechrau gweithio, byddwn yn parhau i'ch cefnogi cyn belled â'ch bod ein hangen, er mwyn i chi symud ymlaen yn eich gyrfa a gweithio heb ein cefnogaeth yn y pen draw.

Byddwn yn eich tywys trwy'ch taith i gyflogaeth gyda'r holl gyngor, cefnogaeth, cymorth, datblygiad a recriwtio rydych angen.

Gall hyn gynnwys:

  • Gweithgareddau amrywiol i ddatblygu eich sgiliau - yn cynnwys gweithio ar eich sgiliau cyfathrebu a magu eich hyder
  • Ymarferion paratoi ar gyfer swydd -yn cynnwys eich helpu i greu CV a chwilio ac ymgeisio am swyddi
  • Cefnogaeth wrth fynychu cyfweliadau
  • Helpu i wneud argraff dda pan rydych yn cychwyn gweithio
  • Cefnogaeth yn y gweithle fel y gallwch wneud yn dda yn eich swydd newydd
  • Cefnogaeth barhaus gyn hired â rydych ei hangen, fel y gallwch ddatblygu yn eich gyrfa.

Fe wnaethom ni helpu Nicola a David  i gael hyd i swydd; gallwch ddarllen eu straeon drwy glicio ar eu henwau.

A hoffech fod yn bartner gyda Remploy ar y rhaglen Dewis Gwaith? 

Bod yn bartner gyda Remploy ar y rhaglen Dewis Gwaith.

Trwy weithio gyda Remploy fel Sefydliad Cyfeirio Statudol (SRO), gallwch fod yn rhan o helpu pobl i drawsnewid eu bywydau trwy gyflogaeth.

 I fod yn SRO, rhaid i chi gael eich comisiynu gan, neu gael contract gan, naill ail awdurdod lleol, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol neu awdurdod addysg lleol.

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Dewis Gwaith a'r gefnogaeth sydd ar gael, gallwch gael hyd i'ch cangen Remploy agosaf, neu cysylltwch â ni ar:
Ffôn: 0845 601 5878
E-bost: RSCenquiries@remploy.co.uk

Contact

Tel: 0845 601 5878
Email: RSCenquiries@remploy.co.uk